‘Jyst eisiau gwneud arian’: Y drosedd sy’n recriwtio pobl ddiniwed i dorri’r gyfraith
‘Jyst eisiau gwneud arian’: Y drosedd sy’n recriwtio pobl ddiniwed i dorri’r gyfraith
Mae dyn o Lanbedr Pont Steffan yn dweud iddo gael ei dwyllo gan droseddwyr oedd yn addo gwneud arian iddo’n gyflym.
Cafodd Darren, 30, ei dargedu i fulo arian, neu ‘money muling’, sy’n drosedd sydd ar gynnydd yng Nghymru.
Mulo arian yw pan fydd troseddwr yn gofyn i ddefnyddio cyfrif banc rhywun arall i symud a chuddio arian ‘brwnt’. Fel arfer, bydd y ‘mulod arian’ yn cael cadw canran o’r arian, gyda nifer ddim yn deall yn llawn yr hyn mae’n nhw’n ei wneud.
Yn ôl banc Lloyds, mae cynnydd o 104% wedi bod mewn achosion o fulo arian yng Nghymru'r llynedd - y cynnydd uchaf ar draws y Deyrnas Unedig.
Cynnig gwneud arian yn gyflym
Fe ymunodd Darren â grwpiau ar-lein oedd yn hysbysebu ffyrdd cyflym o wneud arian. Mae’n dweud iddo dderbyn neges gan rywun nad oedd e’n adnabod yn dweud y gallai wneud £25 yn syth.
"O fi just yn meddwl i neud extra arian i fi, ar gyfer siopa bwyd falle a talu bills," meddai wrth raglen Y Byd ar Bedwar.
Y cynnig oedd i dderbyn £80 i’w gyfrif a throsglwyddo £55 ymlaen i gyfrif arall, gan gadw £25 iddo’i hun fel elw.
"Ar yr amser, o’n i ddim wedi meddwl dau gwaith amdano fe," meddai.
"O’n i’n meddwl bo fi’n helpu mas, ond o’n i ddim yn helpu mas o gwbwl achos o’n nhw just yn iwsio fi just i iwsio’r banks.
"O’n nhw’n really convincing."
Fe gymerodd Darren dri thaliad fel hyn llynedd, gan gadw cyfanswm o £65 i’w hun.
‘Ddim yn sylweddoli’ ei fod yn troseddu
Mae mulo arian yn anghyfreithlon, gyda dedfryd o hyd at 14 mlynedd yn y carchar i’r rheiny sy’n troseddu.
Yn ôl Darren, doedd e ddim yn sylweddoli ar y pryd ei fod yn mulo arian, heb sôn am dorri’r gyfraith.
"Fi’n teimlo fel victim a ma’ meddwl amdano fe nawr, ma’ fe’n neud fi deimlo’n sick. It’s just dirty money," meddai.
"Ma’r bobl ma sy’n ca’l pobl i neud hyn ddim yn deall yr effaith ma’ fe’n ca’l ar bobol, dim dim ond financially ond mentally hefyd."
Mae Darren yn dweud i’r banc gau ei gyfrifon ym mis Rhagfyr llynedd, ac nad yw e wedi gallu agor cyfrif gyda banc traddodiadol ers hynny.
"Mae e wedi effecto fi lot," meddai.
"Fi’n 30 oed a heb fanc, chi ffili neud unrhyw beth."
Mulo arian ar gynnydd yng Nghymru
Yn ôl Ffion Edwards, sy’n Swyddog Trosedd Economaidd gyda banc Starling yng Nghaerdydd, mae mulo arian yn broblem gynyddol, yn enwedig yng Nghymru.
"Yn aml, bydd y troseddwr yn targedu pobl oedrannau 18 i 30 sydd angen arian, sy’n vulnerable, pobl sydd â diffyg dealltwriaeth arian neu bobl sydd ddim mewn swydd," meddai.
Yn ôl Crimestoppers Cymru, mae tri ymhob pump myfyriwr yng Nghymru wedi’u targedu i fulo arian. Ond yn ôl Ffion, dyw pobl ddim yn sylwi ar y goblygiadau o wneud hyn.
"Bydd rhywun sy’n cael ei adnabod fel money mule yn cael ei roi ar industry database, fel CIFAS, a gall hyn gael effaith ar mortgages, credit card a bywyd ariannol y cwsmer," meddai.
CIFAS yw’r prif wasanaeth i atal twyll ariannol yn y Deyrnas Unedig. Os bod gan gwsmer farc CIFAS wrth eu enw, mae’n hysbysu pob banc eu bod wedi bod yn rhan o dwyll, gan ei gwneud hi dipyn yn anoddach i agor cyfrifon a chael benthyciadau am chwe mlynedd.
"Mae’n ddifrfiol a dwi ddim yn credu bod pobl yn sylwi ar y gosb sy’n dod gyda bod yn 'money mule’," meddai Ffion.
Bydd y stori’n llawn i’w gweld ar Y Byd ar Bedwar: Arian parod, arian brwnt, nos Lun, 24 o Dachwedd am 8yh S4C, S4C Clic and BBC iPlayer.