Gwobr Goffa Dai Jones: 'Y Gymraeg yn curo’n gryf yng nghefn gwlad’
Gwobr Goffa Dai Jones: 'Y Gymraeg yn curo’n gryf yng nghefn gwlad’
Mae enillydd Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar yn dweud ei bod yn awyddus i ddangos yr iaith Gymraeg “yn curo’n gryf yng nghefn gwlad” ar ôl ennill y cyfle i ddogfennu digwyddiad cneifio ar blatfformau S4C.
Elen Gwen Williams, 29 oed, yw enillydd cyntaf y wobr a gafodd ei lansio yn Y Sioe Fawr yn gynharach eleni.
Mae Elen, sy’n wreiddiol o fferm deuluol Fron Felen yn Nyffryn Clwyd, bellach yn byw ar Ynys Môn gyda’i phartner, Owain, a’u dwy ferch fach.
Fel un sydd wedi ei magu ar fferm, mae’r cysylltiad â’r byd amaeth yn parhau ac mae Elen ar hyn o bryd yn gweithio i Gymdeithas Amaethyddol Môn.
Cafodd y wobr ei lansio gan S4C er mwyn rhoi cyfle i berson ifanc i weithio â chwmnïau cynhyrchu teledu i ddatblygu syniad gwreiddiol i fod yn eitem gyflawn, a fydd yn cael ei darlledu ar blatfformau S4C.
Y syniad a ddaeth i’r brig oedd enw eitem o’r enw Calon Cefn Gwlad, ble fydd Elen yn gobeithio rhoi mewnwelediad i'r gwaith o drefnu a chynnal digwyddiad cneifio yn Sir Ddinbych o’r enw Cneifio Cyflym Hiraethog, sydd wedi codi bron i £20,000 i elusennau ers 2017.
Dywedodd Elen wrth Newyddion S4C: “Mae’n bwysig adrodd straeon pobl ifanc sydd yn gweld pethau yng nghefn gwlad sydd dal i ddigwydd.
“Fydd Calon Cefn Gwlad gobeithio yn dilyn digwyddiad sydd genna’ ni yn Henllan, Dyffryn Clwyd mewn tafarn lleol o’r enw’r Llindir.
“Da ni’n lwcus iawn o gael cneifwyr o bob ardal o Gymru yn dod i’r digwyddiad, ac mae’r cneifio yn fyrlymus yn ei hun ond o’n i isho dangos gymaint o waith sy’n mynd tu ôl i’r llenni o ran trefnu a faint o bobl sy’n rhoi eu hamser i neud y digwyddiadau yma ddigwydd.
“A hefyd y pwysigrwydd o roi arian i elusennau a rhoi yn ôl rywsut. Mae pob elusen hefo cysylltiad pwysig i’r ardal, a da ni wedi hel i’r Ambiwlans Awyr ac Ysbyty Alder Hey dros y blynyddoedd oherwydd maen nhw efo cysylltiad cryf efo’r bobl yma.
“Dw i just isho dangos yr hiwmor a’r bobl sydd tu ôl iddo fo, yn union fel oedd Dai yn neud.
"Oedd o’n cael y gorau allan o bobl a’r hwyl, a’r teimlad bod cryfder cefn gwlad yn bwysig iawn, bod y gymuned a’r iaith Gymraeg yn dal i guro’n gryf yng nghefn gwlad Cymru.”
Cwrdd â Dai
Mae Elen yn dweud ei bod yn gobeithio cyflwyno’r eitem ar gyfres Ffermio.
Yn ystod ei gyfnod yn cyflwyno’r gyfres Cefn Gwlad ar S4C, ymwelodd Dai â fferm deuluol Elen, ac fe gawson nhw dipyn o hwyl wrth ffilmio.
“O’dd o’n gymeriad. Bydda fo wastad yn rhoid ei amser i bobl,” meddai.
“O’n ni’n cael ymarfer tynnu rhaff efo’r ffermwyr ifanc a gaethon ni rhyw syniad o roi Dai ar y tractor a ni’n tynnu’n erbyn Dai.
"Ac oeddan ni’n tynnu’n gwybod bo ni ar y camera, a digwydd dallt wedyn bo ni ddim yn symud, methu dallt pam, ond roedd Dai yn rhoi ei droed ar y brêc yr holl amser.”
Dywedodd Elen ei bod wedi meddwl am y syniad buddugol fel teyrnged, nid yn unig i Dai, a fu farw yn 2022, ond hefyd i’w brawd, Elgan, a fu farw yn 2004.
“Oedd o wrth ei fodd efo amaethyddiaeth a chefn gwlad a chneifio, a phobl yn mwynhau,” meddai.
“O’n i isho dangos pa mor bwysig ydy cymuned a phobl yn dod at ei gilydd a’r ysbrydoliaeth yna.
"Mae ysgolion lleol yn cau, mae tafarndai’n cau, mae’n bwysig cadw rhywbeth ‘mlaen yn y gymuned.”