Darganfod corff wrth chwilio am ddyn ifanc o Lanelli

Rehaan

Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf a oedd yn chwilio am ddyn 28 oed o Lanelli wedi cyhoeddi fod corff wedi ei ddarganfod yn y dŵr. 

Cafodd Rehaan ei weld ddiwethaf ym Mryste yn ystod oriau man fore Sul.

Yn ôl yr heddlu, cafodd ei weld toc wedi 01.00 yng nghanol y ddinas ger adeilad yr Arnolfini, sef canolfan gelf.

Roedd Rehaan allan gyda'i ffrindiau.

Wrth gyhoeddi diweddariad brynhawn dydd Llun, dywedodd yr heddlu nad yw'r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol ond bod teulu Rehaan wedi cael gwybod am y datblygiad, a bod swyddogion arbenigol yn eu cynorthwyo.

Mae'r llu yn trin ei farwolaeth fel un anesboniadwy, ond nid amheus.  

Bydd dogfennau yn cael eu paratoi ar gyfer y crwner.   

 


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.