Achub chwech o blant o'r môr

Llun: Gwylwyr y Glannau Port Talbot
Gwylwyr y Glannau Port Talbot

Mae chwech o blant wedi cael eu hachub ar ôl mynd i drafferthion yn y môr yn Aberafan, ger Port Talbot.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau Port Talbot eu bod wedi ymateb i "ddigwyddiad mawr" am 20:30 nos Sul.

Roedd aelod o'r cyhoedd wedi gweld sawl plentyn yn y dŵr oddi ar y traeth.

Defnyddiodd aelodau criw gwylwyr y glannau raff er mwyn tynnu tri o'r plant yn ôl i'r traeth.

Mewn datganiad dywedodd Gwylwyr y Glannau Port Talbot bod aelodau o'r criw wedi mynd i'r môr "heb oedi i gynorthwyo'r rhai oedd yn y dŵr, gan lwyddo i ddod â phawb yn ôl i'r traeth yn ddiogel."

Cafodd y chwe phlentyn eu cludo i orsaf Gwylwyr y Glannau. 

Cafodd y plant eu hasesu gan y criw, cyn i barafeddygon y gwasanaeth ambiwlans eu hasesu ymhellach.

Mae Gwylwyr y Glannau Port Talbot yn dymuno gwellhad buan i'r plant i gyd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.