Newyddion S4C

Arglwydd Wigley: Boris Johnson yn 'waeth trafferth' na'r hyn a welodd erioed yn ei yrfa

14/07/2022

Arglwydd Wigley: Boris Johnson yn 'waeth trafferth' na'r hyn a welodd erioed yn ei yrfa

Mae un o wynebau amlycaf Cymru yn San Steffan wedi dweud fod helbulon diweddar Boris Johnson yn "waeth trafferth" i'r blaid lywodraethol nag unrhyw beth a welodd erioed yn ei yrfa wleidyddol.

Mewn cyfweliad arbennig â Newyddion S4C yn Nhŷ’r Arglwyddi yr wythnos hon, fe ddywedodd yr Arglwydd Wigley fod "pethau 'di chwalu mewn cyfnod byr" i'r prif weinidog.

Roedd Yr Arglwydd Wigley yn cynrychioli etholaeth Caernarfon yn Nhŷ’r Cyffredin rhwng 1974 a 2001.

Roedd hefyd yn cynrychioli'r etholaeth yn y Cynulliad rhwng 1999 a 2003.

Fe ymunodd â Thŷ’r Arglwyddi yn 2011 ond yn ddiweddar mae wedi cyhoeddi y bydd yn camu o'r neilltu unwaith mae'n troi'n 80 oed y flwyddyn nesaf.

Er nad yw’n cofio sefyllfa o’r fath o’r blaen, dywedodd nad dyma’r tro cyntaf i’r Blaid Geidwadol wynebu heriau.

“Mi oedd yna gyfnod yn y 60au lle'r oedd llywodraeth Macmillan yn dod i ben, maen nhw’n dweud fod yna dipyn o shambles bryd hynny,” meddai.

“Ond mae’r ffordd mae pethau wedi chwalu mewn cyfnod byr [i Johnson] yn dangos mor fregus oedd pethau.”

Fe ymddiswyddodd dros 60 o weinidogion o Lywodraeth y Deyrnas Unedig wythnos diwethaf, gyda Boris Johnson yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr ddydd Iau.

Mae'r ras i olynu Mr Johnson yn ei hanterth, gydag chwech o ymgeiswyr yn parhau i fod yn cystadlu i fod yn arweinydd y blaid.

Ond amser a ddengys sut bydd dyfodol y Blaid Geidwadol yn edrych.

"Gawn ni weld sut fyddan nhw'n llwyddo i ail-adeiladu, os ydyn nhw," ychwanegodd.

Dywedodd Mr Johnosn y bydd yn gadael yn fuan gyda’i “ben yn uchel” wrth siarad yn y Senedd ddydd Mercher.

“Rwy'n falch o'r arweiniad a roddais a byddaf yn gadael yn fuan gyda fy mhen yn uchel,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.