Angen ateb cwestiynau 'digon rhesymol’ am annibyniaeth
Angen ateb cwestiynau 'digon rhesymol’ am annibyniaeth
Mae yna waith i’w wneud i ateb cwestiynau “digon rhesymol” am annibyniaeth, yn ôl yr Arglwydd Wigley.
Roedd Yr Arglwydd Wigley yn arweinydd ar Blaid Cymru rhwng 1981 a 1984, ac o 1991 i 2000 – yr unig arweinydd i fod yn y rôl ddwywaith.
Fel rhan o'i gyfweliad arbennig â Newyddion S4C yn Nhŷ’r Arglwyddi, dywedodd fod angen “diffinio be’ ‘dan ni’n golygu hefo annibyniaeth”.
“Mae ‘na waith i’w wneud i ateb cwestiynau digon rhesymol sydd gan Mrs Jones sy’n byw yng Nghei Connah a sy’n gweithio yng Nghaer a mynd yn ôl bob dydd y bydd gynnon ni ffin agored, y bydd nwyddau’n gallu symud ‘nôl a ‘mlaen, y bydd arian yn gallu symud yn ôl a ‘mlaen,” meddai.
“A dyma ‘dy’r cwestiynau sydd rhaid cael yr atebion yn glir cyn i ni ofyn i bobl Cymru bleidleisio dros annibyniaeth.
“Dwi’n gwbl argyhoeddedig bod modd cael yr atebion yn glir ac yn gryno ac yn gywir a bod modd argyhoeddi pobl Cymru ar y pwynt priodol mewn amser.
“'Dan ni heb gyrraedd hynny eto ond mi ddaw o yn ddigon sicr o fewn y blynyddoedd nesa’.”
'Brenhiniaeth yn para'
Mae’r Arglwydd Wigley wedi bod yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi ers 2011 ond mae’r gwleidydd wedi cyhoeddi ei fwriad i gamu i lawr cyn iddo droi’n 81.
Mae’n hen law ar ddigwyddiadau San Steffan gan ei fod wedi gwasanaethau fel Aelod Seneddol ar gyfer etholaeth Caernarfon rhwng 1974 a 2001.
Bu hefyd yn aelod o’r Cynulliad ar gyfer yr etholaeth rhwng 1999 a 2003.
Mae’n dweud ei bod hi’n bwysig cadw cysylltiadau rhwng Cymru a gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, hyd yn oed pe bai’r wlad yn pleidleisio o blaid annibyniaeth yn y dyfodol.
“Y realiti ydy yn yr ynysoedd hyn, hyd yn oed tasa’r Alban a Chymru a Lloegr yn wledydd annibynnol, fe fydda’n rhaid i ni fod â rhyw ffyrdd o gyd-weithio hefo’n gilydd ar faterion sydd o bwys,” meddai.
“’Dan ni hefyd yn derbyn, mae’r blaid yn derbyn yng Nghymru, mae’r SNP yn derbyn yn Yr Alban y basa’r frenhiniaeth yn para.
“Bysa gwaith y Frenhines yn wahanol tuag at Gymru a’r Alban nag ydy o rŵan, bysa’n debycach i be’ mae’n ‘neud efo Seland Newydd.
“Ond fysa ni’n parchu hynny fel rhyw fath o ddolen gyswllt sy’n dangos ein bod ni yn cydnabod y berthynas sydd wedi bod efo Lloegr, ond o safbwynt y grym ymarferol o ddydd i ddydd ‘dan ni isho i hwnnw fod yn nwylo Cymru.”
'Llanw yn symud'
Fe gafodd comisiwn annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru ei gyhoeddi fis Hydref y llynedd gyda Laura McAllister a chyn-Archesgob Caergrawnt Rowan Williams yn cadeirio.
Bwriad y pwyllgor yw cynnal “sgwrs genedlaethol” am ddyfodol y wlad gan ystyried “yr holl opsiynau posib".
“‘Sgen i ddim dwywaith...y byddan nhw’n dod â sylwadau ac argymhellion a falle rhai cwestiynau digon dyrys rhai ohonyn nhw gerbron i ni benderfynu fel gwlad sut fath o annibyniaeth ‘da ni am fod yn dilyn dros y blynyddoedd nesa’,” meddai’r Arglwydd Wigley.
“‘Sgen i ddim gronyn o amheuaeth fod y llanw am symud tuag at fwy o annibyniaeth.
“’Dan ni ‘di gweld sut mae pobl yn dal i droi allan i brotestiadau dros hyn yn Wrecsam yn weddol ddiweddar ac ar hyd a lled Cymru dros y blynyddoedd diwetha’.
“Ma’ ‘na lawer iawn fwy o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, ond tydi annibyniaeth ddim o rheidrwydd yn golygu’r un peth i bawb sy’n cefnogi’r syniadaeth.”