Teyrngedau i 'fab a brawd annwyl' fu farw mewn chwarel ym Mhont-y-pŵl

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i fachgen 15 oed fu farw ar ôl disgyn mewn chwarel ym Mhont-y-pŵl.
Fe wnaeth Myron Davies farw yn sgil y digwyddiad yn chwarel Abersychan ar 6 Gorffennaf.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu "na fydd diwrnod pan na fyddwn yn meddwl amdano" ac "na fyddan nhw byth yn ei anghofio".
Fe wnaeth ei chwaer ei ddisgrifio fel ei "ffrind gorau a'i brawd annwyl" ac y bydd hi'n "gweld ei eisiau am byth".
Fe gafodd merch ifanc o Flaenafon, a wnaeth hefyd ddisgyn i'r chwarel, ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd mewn cyflwr difrifol.
Dywedodd AS Torfaen, Nick Thomas-Symonds, bod y newyddion yn "dorcalonnus".
"Rydw i'n meddwl ac yn gweddïo dros deulu'r bachgen ifanc a fu farw, ac yn gobeithio am wellhad i'r ferch ifanc."
Darllenwch fwy yma.
Llun teulu