Newyddion S4C

Arweinyddiaeth y Ceidwadwyr: Cynnal y rownd gyntaf o bleidleisio

Arweinyddiaeth y Ceidwadwyr: Cynnal y rownd gyntaf o bleidleisio

Bydd y rownd gyntaf ar gyfer pleidleisio i ethol arweinydd newydd y Ceidwadwyr yn digwydd ddydd Mercher.

Bydd yn rhaid i ASau Ceidwadol ddewis o wyth ymgeisydd gwahanol.

Yr wyth enw yn yr het yw Kemi Badenoch, Suella Braverman, Jeremy Hunt, Penny Mordaunt, Rishi Sunak, Liz Truss, Tom Tugendhat a Nadhim Zahawi.

Bydd yn rhaid i'r ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt o leiaf 30 o bleidleisiau er mwyn mynd ymlaen i'r cam nesaf.

Mae disgwyl i'r bleidlais ddigwydd rhwng 13:30 a 15:30 ddydd Mercher, gyda'r canlyniad yn cael ei gyhoeddi o gwmpas 17:00.

Fe wnaeth rhai enwau mawr dynnu allan o'r ras yr arweinyddiaeth ddydd Mawrth, gyda'r cyn Ysgrifennydd Iechyd, Sajid Javid yn eu plith yn ogystal â Grant Shapps a Rehman Chishti.

Roedd yr Ysgrifennydd Tramor Priti Patel eisoes wedi cyhoeddi yn gynharach ddydd Mawrth na fydd hi'n ymgeisio i fod yn arweinydd newydd y Ceidwadwyr.

Darllenwch ragor yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.