Penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gau tair ysgol Saesneg yn cael ei herio yn y llysoedd
Penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gau tair ysgol Saesneg yn cael ei herio yn y llysoedd
Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi sicrhau adolygiad barnwrol dros benderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gau tair ysgol cyfrwng Saesneg.
Mae pryderon am effaith codi un ysgol Saesneg newydd sbon yn ardal Pontardawe yn lle'r ysgolion hynny.
Maen nhw'n dadlau nad yw'r broses ymgynghorol wedi ystyried yr effaith ar y Gymraeg.
Bwriad y Cyngor ydy cau tair ysgol Saesneg yn ardal Pontardawe, sef ysgolion Alltwen, Godre’r Graig a Llangiwg er mwyn sefydlu un ysgol Saesneg fawr ar safle Parc Ynysyderw.
Poeni mae RHAG y byddai codi ysgol Saesneg ym Mhontardawe yn amharu ar ddefnydd y Gymraeg yn y cylch.
Dywedodd Elin Maher, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gweithredol RhAG, “nad ar chwarae bach y penderfynodd RhAG ymgymryd â chais am adolygiad barnwrol yn yr achos hwn. Rydym yn croesawu penderfyniad yr Uchel Lys i ganiatáu inni fwrw ymlaen hefo’r adolygiad barnwrol, ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn penderfyniad terfynol y Llys.
“Mae’r sefyllfa wedi achosi cryn ofid inni fel mudiad, ac yn ehangach yn y gymuned ym Mhontardawe, yn arbennig gan fod y Cyngor eu hunain yn cydnabod fod yr ardal yn un o bwysigrwydd ieithyddol arwyddocaol.”
Fe gollodd y Blaid Lafur rym ar Gyngor Castell-nedd a Phort Talbot yn yr etholiadau lleol ym mis Mai, a bellach clymblaid rhwng carfannau annibynnol a Phlaid Cymru sy’n ei reoli.
Mae’r Cyngor newydd wedi cyhoeddi y byddant yn adolygu'r penderfyniad i gau’r dair ysgol yng Nghwmtawe, ond mewn ymateb heddiw, dywedon nhw na fyddai hi'n briodol i wneud sylw pellach tra bod y broses gyfreithiol yn mynd rhagddi.
Bydd gwrandawiad yr adolygiad barnwrol yn cael ei gynnal ar 18 a 19 o Orffennaf yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd, a bydd RhAG yn cael ei gynrychioli yn y llys gan Gwion Lewis C.F.