'Byth yn meddwl bod ni mynd i berfformio eto' meddai actor yn sgil y pandemig

'Byth yn meddwl bod ni mynd i berfformio eto' meddai actor yn sgil y pandemig
"Gwir emosiynol’ - dyna ddisgrifad actor theatr o'r foment pan ddychwelodd i’r llwyfan ar ôl cyfnod y pandemig.
Mae sioe'r West End, Lion King bellach yn cael ei llwyfannu yng Nghaerdydd, ar ôl iddi gael ei gohirio yn 2020 oherwydd y pandemic.
Dywedodd yr actor Owain Rhys Davies sy’n chwarae rhan yr hiena, Ed, na fydd fyth yn anghofio'r profiad wrth berfformio am y tro cyntaf i gynulleidfa ers y cyfnod clo.
“Odd’ e’n wir yn emosiynol i weld y gynulleidfa yn llawn ac yn wir eisiau bod yna i weld rhywbeth fyw a jyst mwynhau. Odd’ pawb yn llefen ar y llwyfan achos o ni byth yn meddwl bo’ ni mynd i berfformio eto.
“Ma’r sioe Lion King wir yn sbesial achos ma’ shwd gymaint o barch a gofal wedi cael ei roi mewn i’r sioe.”
Yn ôl yr actor, mae popeth sy’n ymddangos yn y sioe wedi ei gynhyrchu â llaw - gan gynnwys y 232 o bypedau ar y llwyfan.
Dywedodd Cadan ap Tomos, Rheolwr Cyfathrebu Canolfan Y Mileniwm, bod cael sioe fawreddog yn bwysig iawn i Gymru.
“Mae’n wych i groesawu yma yng Nghaerdydd a gallu cyflwyno i gynulleidfaoedd yng Nghymru.”
"Mae fe’n rili rili dda i gael pobl nôl yma yn mwynhau'r celfyddydau yma yng Nghaerdydd. Ac mae’n rhywbeth bach neis i weld theatr fawreddog fel Lion King.”