Rhybudd am bwysau cynyddol achosion Covid-19 ar ysbytai Cymru

Mae Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio fod ton newydd o heintiadau Covid-19 yng Nghymru'n rhoi pwysau cynyddol ar ysbytai.
Wrth siarad mewn cynhadledd newyddion ddydd Mawrth, dywedodd Vaughan Gething fod dros 1,000 o gleifion Covid-19 mewn ysbytai bellach.
Dywedodd Mr Gething fod coronafeirws "yn parhau i roi pwysau anferth ar ein gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y GIG a gofal.
"Rydym unwaith eto yn gweld cynnydd mewn heintiadau yn y gymuned, sydd yn ei dro yn cynyddu pwysau'r pandemig ar ysbytai.
"Mae dros 1,000 o gleifion Covid-19 yn ein hysbytai ar hyn o bryd, fydd yn cael effaith ar allu'r GIG i barhau i wneud yr hyn yr ydym am iddo ei wneud.
"Fe allwch gynorthwyo'r GIG drwy ddewis y gwasanaeth cywir ar gyfer eich gofal a dilyn yr holl gamau syml, fydd yn helpu i'ch cadw chi a Chymru'n ddiogel."
Darllenwch ragor yma.