Sajid Javid yn tynnu allan o'r ras i arwain y Ceidwadwyr

Sky News 12/07/2022
Senedd y DU, Sajid Javid
Senedd y DU

Funudau cyn i'r cyfnod casglu enwau gau am 18:00 ddydd Mawrth, cyhoeddodd y cyn Ysgrifennydd Iechyd Sajid Javid na fyddai'n ymgeisio ar gyfer yr arweinyddiaeth. Fe adawodd Rehman Chishti y ras rai munudau ynghynt. Mr Javid oedd yr aelod  Ceidwadol cyntaf i ymddiswyddo, oherwydd anfodlonrwydd ag arweinyddiaeth Boris Johnson.

Roedd yr  Ysgrifennydd Tramor Priti Patel eisoes wedi cyhoeddi yn gynharach ddydd Mawrth, na fydd hi'n ymgeisio i fod yn arweinydd newydd  y Ceidwadwyr

Mewn datganiad, fe ddywedodd mai ei blaenoriaeth oedd canolbwyntio ar ei swydd.

Hyd yma mae 8 ymgeisydd wedi datgan eu bod am ymgeisio ar gyfer swydd yr arweinydd, a swydd y prif weinidog o ganlyniad.

Yr 8 enw yn yr het yw  Kemi Badenoch, Suella Braverman, Jeremy Hunt, Penny Mordaunt, Rishi Sunak, Liz Truss, Tom Tugendhat a Nadhim Zahawi.

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.