Disgwyl cyhoeddi arweinydd newydd y Ceidwadwyr ar Medi 5

11/07/2022
Rhif 10 Downing Street

Mae disgwyl y bydd enw arweinydd newydd y Ceidwadwyr yn cael ei gyhoeddi ar Fedi 5.

Bydd angen o leiaf 20 o gefnogwyr (sy’n ASau) ar bob ymgeisydd sy'n sefyll yn ras ar gyfer arweinyddiaeth y Torïaid.

Cafodd amserlen a rheolau’r bleidlais ei gyhoeddi nos Lun gan Gadeirydd Pwyllgor 1922 - grŵp sy’n cynrychioli’r AS Ceidwadol sy’n eistedd ar y meinciau cefn, Syr Graham Brady.

Dywedodd y bydd canlyniad etholiad yr arweinyddiaeth yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, Medi 5.

Bydd yr enwebiadau yn agor ac yn cau ddydd Mawrth a bydd ASau yn cynnal y rownd gyntaf o bleidleisio ddydd Mercher.

Ychwanegodd Syr Graham Brady y bydd ail rownd o bleidleisio yn cael ei chynnal ddydd Iau.

Mae hefyd yn dweud y bydd pleidleisiau yn cael eu cynnal nes cyrraedd y ddau ymgeisydd olaf.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.