Ysgol Uwchradd Llanwern yn ennill gwobr newydd Betty Campbell MBE
Ysgol Uwchradd Llanwern yn ennill gwobr newydd Betty Campbell MBE
Ysgol Uwchradd Llanwern yng Nghasnewydd yw'r gyntaf i ennill gwobr Betty Campbell MBE am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau pobl ddu, asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Mae'r wobr yn rhan o Wobrau Addysgu Proffesiynol Cymru, a chafodd y wobr ei chynnig i unigolyn, tîm neu ysgol sydd wedi dangos ymwybyddiaeth ragorol o bwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant yn yr ystafell ddosbarth,
Mewn seremoni arbennig a gafodd ei chynnal yn Y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd, dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, fod Ysgol Llanwern wedi gweithio’n ofalus iawn i feithrin diwylliant sy’n sicrhau bod gan bob aelod o gymuned yr ysgol ymdeimlad o berthyn.
Dywedodd athro mathemateg yr ysgol, Daniel Harvey: "Mae'n bleser ennill y wobr, mae pawb yn yr ysgol yn hapus, hapus iawn.
"Rydym yn hapus i gefnogi ein cymuned leol oherwydd mae Casnewydd yn ddinas aml-ddiwylliedig ac mae llawer o bobl yn dod i Gasnewydd.
"Ni moyn rhoi'r blociau nesaf i'r cynllun nawr, mae llawer o gynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau ein statws fel ysgol llawn amrywiaeth ac i ni eisiau datblygu gwersi ymhob adran."
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles: "Mae wedi bod yn arbennig o braf gweld Gwobr gyntaf Betty Campbell MBE yn cael ei chyflwyno, cyn i'r Cwricwlwm newydd gael ei addysgu o fis Medi."
Llun: Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru