Rhun ap Iorwerth i frwydro am sedd Ynys Môn yn Etholiad Cyffredinol San Steffan

Mae Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi dweud y bydd yn cyflwyno ei enw ar gyfer yr un sedd yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf ar gyfer San Steffan.
Virginia Crosbie o’r Blaid Geidwadol yw'r aelod seneddol presennol sy'n cynrychioli Ynys Môn yn San Steffan. Mi ymddiswyddodd hi yr wythnos ddiwethaf fel Ysgrifennydd Personol Seneddol Swyddfa Cymru gan alw ar Boris Johnson i ymddiswyddo fel prif weinidog.
Roedd Rhun ap Iorwerth yn y ras i fod yn arweinydd Plaid Cymru yn y Senedd ym Mae Caerdydd yn 2018, gan ddod yn ail i’r arweinydd presennol Adam Price.
Darllenwch y stori'n llawn yma.