Arestio dyn lleol mewn cysylltiad â marwolaeth yng Ngwynedd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dyn mewn cysylltiad â marwolaeth amheus dynes yng Ngwynedd.
Cafodd yr heddlu eu galw am 22:56 nos Sul i ddigwyddiad ar Rodfa’r Môr, Y Bermo.
Cafodd dynes driniaeth gan y Gwasanaeth Ambiwlans, ond bu farw yn ddiweddarach.
Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ac mae dyn lleol wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Mae ditectifs yn parhau gyda’u hymchwiliadau ac mae’r Crwner lleol wedi cael gwybod am y farwolaeth.
Mae’r heddlu yn annog unrhyw un a oedd yn ardal Rhodfa’r Môr yn Y Bermo toc cyn 23:00 nos Sul i gysylltu ar 101, gan ddyfynnu cyfeirnod B100995.