Protestwyr yn meddiannu gwaith glo yn ne Cymru
10/07/2022
Mae tua 60 o brotestwyr wedi meddiannu gwaith glo Aberpergwm yng Nghwm Nedd.
Roedd protestwyr o fudiad Extinction Rebellion wedi mynd i’r lofa, sy'n eiddo i gwmni Energybuild, prynhawn dydd Sul.
Dywedodd llefarydd eu bod nhw yno i ddatgan eu “gwrthwynebiad clir a brys” i ehangu’r lofa.
Mae’r lofa wedi derbyn trwydded i ehangu a chloddio 42 miliwn tunnell o lo caled.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Energybuild