Dyn wedi marw ar ôl disgyn o goelcerth yng Ngogledd Iwerddon

Mae dyn yn ei 30au wedi marw ar ôl disgyn o goelcerth yn Larne yn Sir Antrim nos Sadwrn.
Yn ôl heddlu Gogledd Iwerddon, roedd John Steele, a gafodd ei enwi'n lleol, yn helpu adeiladu’r goelcerth pan fu farw.
Roedd y goelcerth wedi ei hadeiladu fel rhan o ddathliadau traddodiadol Protestaniaid ym mis Gorffennaf.
Mae’r cyngor lleol yn gwneud trefniadau i dynnu’r goelcerth i lawr.
Darllenwch fwy yma.