15 wedi’u saethu’n farw yn Ne Affrica

Mae o leiaf 15 o bobl wedi’u saethu’n farw mewn digwyddiad yn nhreflan Soweto ger Johannesburg yn Ne Affrica.
Dywedodd yr heddlu fod dynion arfog wedi mynd i dafarn Orlando East gan saethu at grŵp o bobl ar hap.
Mae sawl person arall yn ddifrifol wael yn yr ysbyty.
Yn ôl adroddiadau mae’r rhai gafodd eu saethu rhwng 19 a 35 oed.
Ychwanegodd yr heddlu nad oes rheswm amlwg am yr ymosodiad ac maen nhw’n chwilio am y saethwyr.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Twitter/Newsblogmedia