Hen Ferrari oedd yn rhydu ar fferm yng Nghymru yn gwerthu am £110,000

Mae hen Ferrari oedd wedi bod yn rhydu ar fferm yng ngorllewin Cymru am flynyddoedd wedi gwerthu am £110,000 mewn ocsiwn.
Cafodd y Ferrari 1962 250GTE prin ei brynu yn 1973 am £800.
Roedd wedi ei gadw mewn sgubor ar y fferm gyda dŵr yn gollwng cyn cael ei weld mewn cefndir llun am gar arall.
Fe fydd yn rhaid i’r perchennog newydd wario tua £150,000 ar adfer y car ond gall fod yn werth tua £300,000 ar ôl gwneud.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Brightwell's/BNPS