Rhybudd i gadw’n ddiogel yn yr haul
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhybuddio pobol i fod yn ofalus wrth fwynhau yn y tywydd braf yn ystod y dyddiau nesaf.
Mae disgwyl i Gymru gael cyfnod o dymheredd uchel gyda thymereddau'n debygol o godi i 29 gradd Celsiws.
Bydd y tywydd braf yn cael ei achosi gan wasgedd uchel fydd yn ymledu ar draws y Deyrnas Unedig.
Dywedodd ICC fod y tywydd poeth yn medru bod yn risg i iechyd.
Mae’r corff wedi cyhoeddi cyngor ar sut i fwynhau yn yr haul a chadw’n ddiogel:
• Osgoi bod allan yn yr haul rhwng 11.00 a 15:00
• Defnyddiwch hylif haul a gwisgwch ddillad rhydd a het
• Yfwch ddigon o ddŵr
Mae’r corff hefyd yn gofyn i bobol i gadw llygaid ar bobol hyn neu rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain.
Now summer is here, remember that hot weather can be a health risk.
— Public Health Wales (@PublicHealthW) July 8, 2022
Keep yourself and your loved ones safe:
✅ Avoid being in the sun between 11am and 3pm
✅ Wear sun cream, loose clothing and a hat
✅ Drink lots of water
More tips 👇https://t.co/6xILzF1j7p pic.twitter.com/sRV8lnTR7N