Newyddion S4C

Gorfoledd i Gymru wrth ennill yn Ne Affrica am y tro cyntaf

09/07/2022
Cymru'n ennill yn Ne Affrica am y tro cyntaf

Enillodd Cymru am y tro cyntaf yn Ne Affrica brynhawn Sadwrn wrth drechu'r Springboks o un pwynt yn unig mewn gêm ddiflas ar y cyfan.

Roedd De Affrica wedi gwneud 14 o newidiadau o’r gêm yn Pretoria wythnos yn ôl gyda Syr Gareth Edwards yn barnu’r Springboks am beidio â dangos parch i Gymru.

Dim ond un newid oedd yn nhîm Wayne Pivac gydag Alex Cuthbert ar yr asgell yn lle Josh Adams ar gyfer y gêm yn Bloemfontein.

Dechreuodd pethau’n dda i Gymru unwaith eto gyda’r capten Dan Biggar yn cicio gôl gosb ar ôl munud yn unig.

Ond fe ildiodd pwysau gan Dde Affrica gic gosb iddyn nhw gyda’r maswr Handre Pollard yn llwyddo i ddod â’r sgôr yn gyfartal ar ôl pum munud.

Cael a chael oedd hi trwy gydol yr hanner cyntaf gyda’r ddau dîm yn gwneud camgymeriadau ac nid oedd newid yn y sgôr ar yr egwyl.

Aeth De Affrica ar y blaen ar ôl tair munud o’r ail hanner gyda chic gosb o droed Pollard ac ychwanegodd un arall wyth munud yn ddiweddarach i ymestyn y flaenoriaeth i 9-3.

Gyda’r pwysau'n cynyddu gan y tîm cartref, roedd Cymru yn gwneud camsyniadau ac yn ildio sawl cic gosb. Daeth Alun Wyn Jones i’r cae fel eilydd ond o fewn munud fe gafodd gerdyn melyn mewn penderfyniad dadleuol.

Gyda Jones i ffwrdd o'r cae fe giciodd Pollard gôl gosb arall ac roedd gobeithio Cymru yn edrych ar chwâl.

Daeth llygedyn o obaith i Gymru pan giciodd yr eilydd Gareth Anscombe gic gosb ar ôl 66 munud i ddod o fewn chwe phwynt.

Dangosodd Cymru ychydig fwy o ysbryd mentrus yn y deng munud olaf.

Cafodd Cymru gyfleoedd yn 22 De Affrica ac wrth i’r tîm cartref ildio ciciau cosb, lledwyd y bêl i Josh Adams sgorio yn y gornel.

Roedd Adams wedi dod i'r cae fel eilydd yn dilyn anaf i Alex Cuthbert yn gynnar yn y gêm.

Camodd Anscombe i’r adwy eto gan drosi’n hyderus o'r ystlys i ddodi Cymru ar y blaen o bwynt gyda dwy funud yn weddill.

Y sgôr terfynol: De Affrica 12 - 13 Cymru.

Bydd uchafbwyntiau'r gêm i'w gweld ar S4C am 21:00 nos Sadwrn.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.