Wcráin: Milwyr yn hyfforddi yn y DU

Mae carfan gyntaf o filwyr Wcráin wedi cychwyn ar raglen hyfforddi yn y DU.
Fe fydd tua 10,000 o filwyr yn cael eu hyfforddi mewn mannau ar draws y DU yn ystod y misoedd nesaf.
Fe fydd y rhaglen yn rhoi’r sgiliau angenrheidiol iddyn nhw i frwydro ar y llinell flaen, yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Ben Wallace mai dyma’r “rhan nesaf” o gymorth y DU i luoedd Wcráin.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Gov.uk