Rishi Sunak i ymgeisio am swydd y prif weinidog

Mae Rishi Sunak wedi cyhoeddi ei fwriad i ymgeisio am swydd y prif weinidog, yn dilyn cyhoeddiad Boris Johnson ddydd Iau y byddai'n camu i lawr.
Mr Sunak yw'r ffefryn i olynu Mr Johnson, ac wrth gyhoeddi ei fwriad i ymgeisio am y swydd, dywedodd fod y wlad yn wynebu "heriau anferth".
Roedd wedi ymddiswyddo o gabinet Boris Johnson nos Fawrth.
Fe wnaeth ei benderfyniad sbarduno degau o weinidogion ac is-weinidogion i adael y llywodraeth, cyn i Boris Johnson roi'r ffidil yn y to a chyhoeddi ei fod am gamu i lawr.
Darllenwch ragor yma.