Dedfryd oes i ddyn am lofruddio Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu

Mae dyn a lofruddiodd Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu wedi ei garcharu am oes yn Llys y Goron Caergaint.
Fe gafodd Julie James ei llofruddio ar 27 Ebrill y llynedd pan ymosododd Callum Wheeler, 22, arni gan arwain at "anafiadau difrifol."
Nid oedd Ms James yn gweithio ar y diwrnod hwnnw, ac roedd hi'n cerdded mewn coetir gerllaw ei thŷ yng Nghaint.
Fe gafodd Wheeler ei ddedfrydu i garchar am 37 mlynedd.
Darllenwch ragor yma.