Cheryl Foster i ddyfarnu ei gêm Ewros gyntaf
Bydd Cheryl Foster yn dyfarnu ei gêm Ewros gyntaf pan fydd yr Iseldiroedd yn chwarae yn erbyn Sweden nos Sadwrn.
Fe fydd hi'n cymryd rheolaeth o'r gêm wrth i'r Iseldiroedd herio Sweden yn Brammall Lane, yn Sheffield y tro cyntaf iddi ddyfarnu mewn twrnament rhyngwladol.
Foster bydd y dyfarnwr cyntaf o Gymru i ddyfarnu mewn twrnamaint rhyngwladol ers Clive Thomas yng Nghwpan y Byd dynion yn 1978.
Dywedodd: "Mae'n mynd i fod yn foment falch i'r gymuned ddyfarnu yng Nghymru ond hefyd i fy ffrindiau a'm teulu sydd wedi bod trwy'r daith hir hon gyda fi – ers oeddwn i'n 15 oed. Mae wedi bod yn daith hir; anodd ar adegau ond alla i ddim aros. Mae'n mynd i fod yn brofiad anhygoel, rwy'n edrych ymlaen ato.
"Yn amlwg, nid ydym wedi cael llawer o ddyfarnwyr benywaidd drwy'r system beth bynnag felly, rwy'n gobeithio y bydd yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddyfarnwyr a swyddogion yng Nghymru, yn ddynion ac yn fenywod.
"Rwy'n falch fy mod yn cael y cyfle hwn i gynrychioli Cymru mewn twrnamaint mawr ac yn amlwg yn chwifio'r faner dros fy ngwlad."
“I'm proud to have represented Wales as a footballer... but to be able to continue to represent my country now through refereeing is just as big and just as important to me." #WEURO2022
— FA WALES (@FAWales) July 5, 2022
Dechreuodd Foster ei gyrfa dyfarnu ar ôl ymddeol o bêl-droed yn 2013. Chwaraeodd hi dros Fangor a Doncaster Belles, ond treuliodd rhan fwyaf o'i gyrfa gyda Lerpwl.
Yn yr un flwyddyn penderfynodd hi ddechrau dyfarnu, roedd hi'n llinellwr yn rownd derfynol Cwpan Merched Cymru ac eisoes wedi gwneud y cam i ddyfarnu gemau'r JD Cymru Premier.
Cafodd ei hychwanegu i restr dyfarnwyr Fifa ym mis Rhagfyr 2015, ac ers hynny mae wedi dyfarnu naw gêm Cynghrair y Pencampwyr Uefa gan gynnwys y rownd gyn-derfynol rhwng Barcelona a Wolfsburg.
Y tymor diwethaf cafodd hi ei dyrchafu i restr elît dyfarnwyr UEFA, ac yn cael ei hystyried fel un o ddyfarnwyr merched gorau yn Ewrop.
Llun: Wikimedia Commons