Newyddion S4C

Joe Allen yn dychwelyd i chwarae i'r Elyrch

08/07/2022
Joe Allen - Stoke

Mae Joe Allen wedi ailymuno â'r Elyrch 10 mlynedd wedi iddo adael y clwb.

Fe adawodd Allen Stoke ar ddiwedd y tymor ar ôl dewis peidio ymestyn ei gytundeb.

Bydd disgwyl iddo wisgo rhif 7 yn ei ail gyfnod gydag Abertawe, sef y rhif yr oedd ei gyn gyd-chwaraewr Leon Britton yn ei wisgo.

Mae Allen yn ymuno â'r Elyrch wrth iddynt baratoi am y tymor newydd yn y Bencampwriaeth.

O Sir Benfro i'r Uwch Gynghrair

Ymunodd y chwaraewr canol cae gyda'r Elyrch pan oedd yn naw oed, cyn dechrau ei gêm gyntaf i'r tîm cyntaf yn erbyn Walsall pan oedd yn 17 oed.

Allen oedd seren y gêm honno.

Sefydlodd ei le yn y tîm yn 2009, gan chwarae rôl hollbwysig yng nghanol y cae'r wrth iddynt ddechrau brwydro am ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr. 

Chwaraeodd 40 gêm yn y tymor enillodd Abertawe ddyrchafiad trwy gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth a chwaraeodd bob un gêm heblaw ddwy yn ystod y tymor canlynol, cyn arwyddo i Lerpwl am £15m. 

Yn y pedair blynedd chwaraeodd Allen i Lerpwl, chwaraeodd 132 gêm a sgorio saith gôl. Roedd yn rhan o'r garfan yn rowndiau terfynol Cwpan y Gynghrair a Chynghrair Europa. 

Cafodd ei ddewis i gynrychioli tîm Prydain yn y Gemau Olympaidd yn 2012, un o dri Cymro i gael ei ddewis.

Symud i Stoke

Yn 2016 symudodd Allen i Stoke am £13m, a hynny yn ystod y cyfnod chwaraeodd i Gymru yn Euro 2016.

Chwaraeodd Allen ymhob gêm wrth i Gymru gyrraedd y rownd gyn-derfynol, cyn colli yn erbyn Portiwgal. Cafodd Allen ei enwi yn nhîm y twrnament am ei berfformiadau ac mae'n parhau fel un o ffefrynnau'r Wal Goch hyd heddiw.

Cafodd dymor gwych i Stoke yn 2016/17 wrth iddo sgorio chwe gôl mewn 39 gêm a chael ei enwi ar y rhestr fer o 40 chwaraewr tîm y flwyddyn UEFA.

Wedi i Stoke ddisgyn i'r Bencampwriaeth, arhosodd Allen gyda'r clwb fel un o'i brif chwaraewyr, a chafodd ei ddewis yng ngharfan Cymru ar gyfer Euro 2020.

Daeth cytundeb Allen i ben ym mis Gorffennaf, ac fe fydd yn gobeithio chwarae rhan allweddol i'r Elyrch yn y tymor i ddod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.