Guto Harri yn 'un o ddau' oedd yn annog Johnson i barhau fel Prif Weinidog

Roedd Guto Harri yn un o ddau o bobl oedd yn annog Boris Johnson i barhau fel Prif Weinidog, yn ôl adroddiadau yn The Times.
Roedd hyn er i bron i 60 o weinidogion Mr Johnson ymddiswyddo o'i lywodraeth.
Yn ôl yr adroddiadau, roedd Guto Harri ac uwch ymgynghorydd Mr Johnson David Canzini, yn dal i'w annog i barhau oriau cyn iddo dderbyn ei dynged.
Dywed The Times fod bron i bawb arall yn ei annog i gamu o'r neilltu.
Darllenwch fwy yma.