Y Tywysog Harry yn ennill achos enllib yn erbyn y Mail on Sunday

Mae'r Tywysog Harry wedi ennill achos enllib yn erbyn y Mail on Sunday.
Roedd rhannau o erthygl yn y papur newyddion am her gyfreithiol y Tywysog Harry yn erbyn y Swyddfa Gartref yn enllibus, meddai barnwr Uchel Lys.
Roedd y Tywysog Harry wedi siwio'r Associated Newspapers Limited (ANL) am enllib oherwydd erthygl ym mis Chwefror am anghydfod ynghylch trefniadau diogelwch ei deulu.
Dywedodd ei fargyfreithiwr fod y stori wedi gwneud awgrymiadau ffug fod y Tywysog wedi dweud celwydd gan geisio dylanwadu ar farn y cyhoedd.
Ond dywedodd ANL nad oedd yn cynnwys "unrhyw awgrym amhriodol" ac nad oedd yn enllibus.
Mae'r dyfarniad yn rhan o’r cam cyntaf yn yr achos enllib, ac yn golygu y gall yr achos fynd ymlaen i dreial llawn.
Darllenwch y stori'n llawn yma.