Wrth wynebu llawdriniaeth i dynnu ei bledren, mae dyn 25 oed yn dweud bod sgil effeithiau hir dymor o ddefnyddio cetamin wedi "difetha" ei fywyd.
Roedd Oliver Westell yn teimlo nad oedd dim dewis ganddo ond cael llawdriniaeth i gael bag stoma mewn ymgais i waredu’r boen ddifrifol ddyddiol.
"Dwi actually yn nabod pobl oedd wedi defnyddio heroin am 30 blwyddyn ac mae ganddyn nhw gwell safon byw na finnau," meddai.
"Maen nhw’n gallu gwneud pethau dwi’m yn gallu."
Mae cetamin yn un o’r cyffuriau sy’n cael ei ddefnyddio fwyaf ymysg rhai pobl ifanc.
Yn ôl ffigyrau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae ei ddefnydd wedi mwy na dyblu dros y ddegawd ddiwethaf ymysg pobl ifanc, ac mae ymchwil gan Goleg Prifysgol Llundain y llynedd yn dangos bod 60% o ddefnyddwyr sy’n dioddef oherwydd cetamin hefo problemau difrifol gyda’u pledren.
Yn siarad gyda Zahra Errami mewn cyfres newydd ar S4C, Cymru ar Gyffuriau, dywedodd Oliver fod "sniffio K" mor normal â brwsio ei ddannedd iddo pan oedd yn gaeth i’r cyffur am gyfnod o wyth mlynedd.
Mae’n dweud mai "ond un gram ar y penwythnos" yr oedd yn ei ddefnyddio i ddechrau, ond fe dyfodd hyn yn aruthrol dros amser gan droi yn broblem enfawr iddo.
"Pan oeddwn i’n like tair blwyddyn in, roeddwn i’n defnyddio ket bob dydd. Ro’n i’n defnyddio 21 gram, a nath e jyst droi mewn i’r peth mwyaf normal," meddai.
Oherwydd y cyffur, fe wnaeth Oliver ddechrau dioddef gyda beth sy’n cael ei alw yn "ket cramps".
Roedd yn "teimlo fel rhywun yn cydio yn fy kidneys," meddai, ac "yn y diwedd, yr unig beth oedd yn helpu’r boen… oedd y ket ei hun."
Mae’n disgrifio’r cyfnod fel "cylch dieflig" o ddioddef sgil effeithiau’r cyffur a chymryd mwy ohono i ddelio gyda’r boen ddifrifol.
Wrth i’r cetamin ddinistrio ei bledren, dechreuodd basio gwaed, ac yna darnau o leinin yr organ hefyd.
Effeithiodd y cetamin hefyd ar faint ei bledren ac achosi iddo angen pasio dŵr "bob 60 eiliad".
"Dwi 'di bod yn gwisgo incontinence pads ers o’n i’n 20… fi’n mynd trwy dau baced yr wythnos achos y niwed ma’ ket wedi ’neud," meddai.
"Fi’n gorfod newid dillad gwely bob dydd a’n dihuno bob nos yn socian. Do’n i ddim yn ymwybodol o’r effeithiau hyn pan nes ddechre cymryd ket."
Mae Oliver yn ymgyrchu nawr i wella ymwybyddiaeth o effeithiau’r cyffur a’r gefnogaeth sydd ar gael i bobol sy’n gaeth iddo.
Mae’n benderfynol o ddefnyddio ei brofiad i helpu eraill ac mae wedi sefydlu ‘Ketamine Support Wales’ - grŵp wythnosol sy’n cynnig cymorth i bobl sy’n profi problemau gyda’r cyffur yng Nghymru.