Undeb Rygbi Cymru yn dod i gytundeb er mwyn 'cryfhau' eu sefyllfa ariannol

Abi Tierney

Mae Undeb Rygbi Cymru yn dweud eu bod nhw wedi sefydlu adnoddau bancio newydd a fyddai’n cryfhau eu sefyllfa ariannol o hyn allan.

Mewn datganiad nos Fercher, dywedodd y sefydliad eu bod nhw wedi ail-drefnu eu sefyllfa gyllidol gan olygu bod eu hadnoddau bancio wedi cynyddu o £46.8m i gyfanswm o £55m. 

Mae Undeb Rygbi Cymru bellach wedi ad-dalu’r benthyciad o £12.4m gafwyd gan Lywodraeth Cymru’n dilyn heriau’r cyfnod clo, hynny’n llawn a chyn y dyddiad gorfodol i wneud hynny.

Mae’r trefniant ar gyfer y ddyled newydd wedi ei wneud ar y cyd gyda Goldman Sachs a HSBC – ac mae amodau’r trefniant hwnnw’n “fwy ffafriol na’r cynllun blaenorol,” meddai’r Undeb.

Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i rygbi Cymru dros gyfnod y pandemig, ond rydym yn hynod falch heddiw ein bod yn gallu cyhoeddi’r ffaith ein bod wedi ad-drefnu’r ddyled gyda chwmnïau Goldman Sachs a HSBC.”

Roedd Abi Tierney wedi eitifeddu’r ddyled wreiddiol wrth ddechrau ei swydd ym mis Ionawr 2024. 

“Mae gosod seiliau ariannol cadarn a sefydlog ar gyfer yr Undeb wedi bod yn brif flaenoriaeth i ni ers i ni benderfynu gostwng nifer y timau proffesiynol o bedwar i dri. Mae cynyddu lefel ein buddsoddiadau wedi bod yn rhan ganolog o’n gweledigaeth ar gyfer ‘Y Ffordd Ymlaen,’ meddai. 

“O’r tymor nesaf ymlaen am gyfnod o bum mlynedd, byddwn yn buddsoddi £28m ychwanegol i mewn i’r gêm gymunedol ac i mewn i’n Llwybrau Datblygu. 

“Bydd hyn yn ein galluogi i feithrin doniau disglair y dyfodol a bydd y trefniant am drwyddedau newydd, sy’n cael ei drafod gyda’n clybiau proffesiynol, yn sicrhau y gallant fod yn gystadleuol gyda’u cyfoedion o safbwynt eu cyllidebau.”

Mae strwythur ac amodau’r ad-daliadau newydd o £30m gyda Goldman Sachs a HSBC, bellach ar ffurf un benthyciad hirdymor llog yn unig. 

Ynghŷd â hynny bydd Cyfleuster Credyd Cyfleus o £25m ar gael i’r Undeb gyda gallu pellach i gael gafael ar £5m yn ychwanegol o fenthyciad os oes angen.

Daw’r newidiadau dan arweiniad y sefydliad, sef y Cadeirydd Richard Collier-Keywood. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.