Teyrnged i ddyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion
Mae teulu dyn ifanc wnaeth farw mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion wedi rhoi teyrnged iddo, gan ei ddisgrifio fel "dyn ifanc hapus".
Fe wnaeth Alfie Copeland, 22 oed farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A487 ger Ceredigion ddydd Sadwrn 17 Ionawr.
Dywedodd ei deulu ei fod yn "ddyn ifanc galluog, hapus, doniol, anturus, uchelgeisiol a charedig.
"Roedd ganddo ddyfodol llewyrchus o'i flaen a cymaint o gynlluniau.
"Fyddwn yn gweld eisiau Alfie am byth, ac fe fydd yn ein calonnau am weddill ein bywydau."
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad ffordd.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu drwy eu gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod DP-20260117-139.

