‘Siom’: Gwaith atgyweirio Pont Menai i barhau tan 2027

Cyngor Môn - Pont Menai

Fe fydd y gwaith atgyweirio ar Bont Menai rhwng Ynys Môn a'r tir mawr yn parhau tan o leiaf dechrau 2027 meddai Llywodraeth Cymru ddydd Mercher.

Yn wreiddiol roedd disgwyl i’r gwaith ddod i ben yn y gwanwyn eleni.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates bod yr oedi yn destun “rhwystredigaeth a siom”.

Fe fydd y gwaith yn dod i ben rhwng mis Chwefror a mis Ebrill y flwyddyn nesaf, ac fe fydd o leiaf un ffordd ar agor drwy gydol y cyfnod atgyweirio.

Dywedodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, ei fod yn siom na fydd y gwaith wedi ei gwblhau cyn pen-blwydd y bont yn 200 ddiwedd mis Ionawr.

“Hoffwn ailadrodd yn blwmp ac yn blaen y rhwystredigaeth a'r siom dwfn a deimlir ynglŷn â'r oedi i'r rhaglen,” meddai.

“Ni ellir gorbwysleisio arwyddocâd Pont Menai, fel seilwaith critigol ac fel tirnod eiconig, yn enwedig wrth inni ddathlu ei deucanmlwyddiant. 

“Er ein bod i gyd yn siomedig na ellid cwblhau'r gwaith cyn y garreg filltir arwyddocaol hon, rhaid i ddiogelwch a chadernid strwythurol barhau i fod yn flaenoriaeth bob amser.”

Fe gafodd terfyn pwysau newydd ei gyflwyno i'r hen bont sy'n cysylltu Ynys Môn a'r tir mawr ar ôl "cyngor brys" gan beirianwyr strwythurol ym mis Hydref y llynedd.

Roedd archwiliad wedi darganfod bod angen gosod bolltau newydd ar drawstiau'r bont, ac fe gafodd y bont ei chau yn llwyr am gyfnod. 

Ail-agorodd yn rhannol tri diwrnod yn ddiweddarach ond mae’r cyfyngiadau pwysau yn parhau.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.