'Pas diwylliant': Galw am fwy o gyfleoedd creadigol i bobl ifanc

Newyddion S4C

'Pas diwylliant': Galw am fwy o gyfleoedd creadigol i bobl ifanc

Fe ddylai pobol ifanc Cymru gael cynnig “pas diwylliant” i brofi gweithgareddau diwylliannol a cherddoriaeth am ddim, yn ôl adroddiad.

Mae’r Gymdeithas Llyfrwerthwyr yn dweud y gall taleb gwerth £250 ar gyfer rheiny rhwng 16-21 oed gael ei wario ar bethau fel llyfrau ac offerynnau.

Mae'r adroddiad yn awgrymu y byddai'r 'pas diwylliant' yn sicrhau gwell mynediad at brofiadau diwylliannol gyda bron i 40,000 o bobl yn elwa.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’n ystyried yr argymhellion.

Mae adroddiad Rôl Ddiwylliannol a Chymunedol Siopau Llyfrau Cymru yn edrych ar gyfraniad diwylliannol siopau llyfrau Cymru.

Mae’n dweud eu bod yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg, yn hybu llythrennedd plant ac yn cryfhau cysylltiadau cymunedol.

Ond maen nhw hefyd yn “gweithredu fel amddiffynfeydd grymus yn erbyn risgiau twyllwybodaeth a diffyg ymddiriedaeth sy’n cael eu sbarduno’n ddigidol”.

Un o’r galwadau ydi cyflwyno “taleb diwylliant” i bobol ifanc a diwygio trethi busnes.

Cafodd taleb diwylliant gwerth €300 ei gyflwyno yn Ffrainc yn 2021.

Mae’r adroddiad yn amcangyfrif y byddai’n costio tua £9.6m bob blwyddyn yng Nghymru.

Dywedodd Jo Knell, cadeirydd Llyfrwerthwyr Cymru, a pherchennog siop lyfrau Cant a Mil yng Nghaerdydd, fod sefyllfa'r siopau ar y cyfan yn "eithaf iach". 

Ond rhybuddiodd fod siopau llyfrau Cymraeg yn “fwy bregus”.

Dywedodd bod wedi gwaethygu yn fwy diweddar gyda "gymaint o heriau o gymaint o wahanol gyfeiriadau".

Ychwanegodd: "Mae'r elw ar lyfrau Cymraeg yn is nag yw e ar lyfrau Saesneg felly'r unig ateb yw shifftio lot o lyfrau."

Image
Rhys Owens, myfyriwr
Rhys Owens, myfyriwr

Roedd gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd farn gymysg am y syniad o daleb.

“Dwi’m meddwl ei fod yn syniad da, ond mae’n dibynnu os oes gan bobol ddiddordeb ynddo fe,” meddai, Rhys Owens, 21, sy’n astudio mathemateg.

Image
Rhys Jones, myfyriwr
Rhys Jones, myfyriwr

Dywedodd Rhys Jones, 21, sy’n astudio ffiseg, ei fod yn darllen yn eithaf aml, ond fod hynny yn eithaf anghyffredin i rywun ei oed o.

“Yn sicr mae angen gwneud rhywbeth i newid hynny ac i gynyddu’r lefelau darllen ond dwi ddim yn siŵr iawn os mai dyma’r ffordd gywir i wneud o.”

Image
Caryl Lewis
Yr awdures Caryl Lewis

Dywedodd Caryl Lewis, awdures a sgriptwraig, ei bod yn gefnogol i unrhyw beth i helpu mynediad pobol ifanc at ddiwylliant.

“Mae gymaint o bethau yn cymryd sylw ein pobol ifanc ni, y cyfryngau cymdeithasol wrth gwrs bob dydd,” meddai.

“Ond dwi’n teimlo’n angerddol iawn am bwysigrwydd darllen oherwydd bod darllen yn ehangu ein meddwl ni.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: Rydym yn croesawu adroddiad Cymdeithas y Llyfrwerthwyr. Byddwn yn ystyried eu hargymhellion ac yn ymateb maes o law. 

"Mae ein Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant yn cydnabod pwysigrwydd diwallu anghenion a dyheadau diwylliannol plant a phobl ifanc. 

“Yn 2025-2026, fe wnaethom ddarparu dros £500,000 i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael mynediad at brofiadau diwylliannol drwy ymweliadau ysgol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.