Canfod corff wrth chwilio am gerddwr o Gasnewydd oedd ar goll

08/07/2022
S4C

Mae corff wedi’i ddarganfod wrth chwilio am ddyn aeth ar goll ar ôl mynd i gerdded yn Cumbria.

Cafodd Richard Miles, 44 oed o Gasnewydd, ei weld ddiwethaf yn Wasdale yn Ardal y Llynnoedd ar fore Sadwrn 2 Gorffennaf.

Cafodd y corff ei ddarganfod ar fynydd Scafell tua 19:15 nos Iau gan wirfoddolwyr o sawl tîm achub mynydd.

Ni chredir fod yr amgylchiadau yn amheus.

Dywedodd Heddlu Cumbria bod teulu Mr Miles wedi cael gwybod am y datblygiad, ond nid yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto.

Llun: Heddlu

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.