Tom Tugenhat AS yn dechrau ei ymgyrch i fod yn Brif Weinidog y DU

Mae’r AS Tom Tugenhat wedi cyhoeddi ei fwriad i geisio olynu Boris Johnson fel arweinydd y Blaid Geidwadol a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Mr Tugenhat, sydd hefyd yn gadeirydd y pwyllgor materion tramor yn San Steffan, yw'r Aelod Seneddol cyntaf i gyhoeddi ei ymgyrch yn swyddogol.
Mae disgwyl i Geidwadwyr eraill gyhoeddi eu hymgyrchoedd yn y dyddiau nesaf wedi i Boris Johnson gyhoeddi ei ymddiswyddiad ddydd Iau.
Yn ôl adroddiadau, mae'r cyn-weinidog trafnidiaeth Grant Shapps a'r cyn-weinidog iechyd Sajid Javid yn ystyried cyhoeddi eu hymgyrchoedd yn fuan.
Mae Suella Braverman a Steve Barker hefyd wedi mynegi eu diddordeb am yr arweinyddiaeth.
Darllenwch fwy yma.