Disgwyl tywydd poeth ar draws Cymru dros y dyddiau nesaf
Disgwyl tywydd poeth ar draws Cymru dros y dyddiau nesaf
Mae disgwyl i Gymru gael cyfnod o dymheredd uchel dros y dyddiau nesaf gyda thymereddau'n disgwyl codi i 29 gradd Celsiws.
Bydd y tywydd braf yn cael ei achosi gan wasgedd uchel fydd yn ymledu ar draws y Deyrnas Unedig.
O ganlyniad, bydd Cymru yn gweld tywydd sych a phoeth o ddydd Gwener ymlaen, gydag ardaloedd yn y de yn mwynhau'r tymereddau uchaf.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn disgwyl rhai ardaloedd i brofi amodau sydd yn cael eu hystyried fel 'heatwave', gyda thymereddau yn uwch na 25 gradd am dridiau yn olynol.
Mae rhybudd hefyd y bydd lefelau UV yn uchel mewn sawl rhan o Gymru ddydd Mawrth gyda lefelau'r paill yn gymedrol.
Mae disgwyl i'r tymereddau uchel bara dros y penwythnos a thu hwnt.