Yr actor James Caan wedi marw yn 82 oed

Mae'r actor James Caan wedi marw yn 82 oed.
Dechreuodd ei yrfa yn yr 1960au a bu'r actor Americanaidd yn serennu mewn sawl ffilm boblogaidd gan gynnwys The Godfather ac Elf.
Ar draws bron saith degawd o actio, fe dderbyniodd enwebiadau ar gyfer gwobrau yn y Golden Globes, Emmys a'r Oscars.
Mae'n gadael ei bum plentyn.
Darllenwch fwy yma.