Nottingham Forest yn cytuno ar gytundeb i arwyddo Neco Williams

Mae Nottingham Forest wedi cytuno ar gytundeb gwerth £17m i arwyddo amddiffynnwr Cymru Neco Williams o Lerpwl.
Fe wnaeth y pêl-droediwr 21 oed helpu Fulham i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf ar ôl ymuno â nhw ar fenthyg o Anfield ym mis Ionawr.
Daeth Williams drwy’r academi yn Lerpwl a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y tîm cyntaf yn erbyn Arsenal yng Nghwpan Carabao yn 2019.
Chwaraeodd i Gymru yn Ewro 2020 a’u helpu i gyrraedd Cwpan y Byd 2022.
Bydd Williams yn ymuno a sêr ifanc arall o Gymru, Brennan Johnson, yn Forest wedi iddynt ennill dyrchafiad trwy'r gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth y tymor diwethaf.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Asiantaeth Huw Evans