Newyddion S4C

Robert Buckland wedi ei benodi yn Ysgrifennydd Cymru

07/07/2022
Robert Buckland

Mae Robert Buckland wedi ei benodi yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Mae Mr Buckland o Lanelli yn wreiddiol ond yn cynrychioli etholaeth De Swindon.

Roedd hefyd yn Ysgrifennydd Cyfiawnder rhwng 2019 a mis Medi 2021.

Mae penodiad Mr Buckland yn rhan o ymdrech i Boris Johnson lenwi swyddi yn ei gabinet yn dilyn ymddiswyddiadau niferus yn ystod y ddau ddiwrnod diwethaf.

Mae Mr Johnson yn dymuno parhau fel prif weinidog tan yr hydref.

Mae Kit Malthouse wedi ei benodi yn Ganghellor Dugiaeth Swydd Gaerhirfryn, Shailesh Vara yn Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, Greg Clark yn Ysgrifennydd Codi'r Gwastad a James Cleverly yn Ysgrifennydd Addysg - y trydydd Ysgrifennydd Addysg i Loegr yr wythnos hon.

Mae Andrew Stephenson hefyd wedi ei benodi'n Weinidog heb Bortffolio ac fe fydd yn mynychu cyfarfodydd y cabinet.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.