‘Ni fydd Boris Johnson yn rhoi'r gorau iddi’

Mae Prif Weinidog y DU wedi dweud wrth ei brif swyddogion a chyd-weithwyr na fydd yn rhoi’r gorau iddi ac y bydd yn brwydro yn erbyn pleidlais arall o ddiffyg hyder gan y Torïaid.
Fe aeth grŵp o aelodau'r Cabinet i Downing Street ddydd Mercher i annog Boris Johnson i ymddiswyddo.
Yn ôl y Mirror mae Mr Johnson yn gwrthod ymddiswyddo, gan fynnu y byddai’n parhau i ganolbwyntio ar y “materion hynod bwysig sy’n wynebu’r wlad”.
Mae Prif Chwip y Blaid Geidwadol, Chris Heaton-Harris, wedi cwrdd â'r prif weinidog yn Rhif 10 Downing Street brynhawn Mercher i ategu neges aelodau'r grŵp fod angen i Mr Johnson gamu i lawr.
Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, y Canghellor newydd Nadhim Zahawi, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps ac Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Brandon Lewis ymysg aelodau'r Cabinet sydd wedi annog Boris Johnson i ymddiswyddo.
Daw'r neges gan aelodau'r Cabinet yn ystod diwrnod cythryblus i'r prif weinidog, gyda llu o weinidogion, is-weinidogion a swyddogion wedi ymddiswyddo o'r llywodraeth dros y 24 awr ddiwethaf.
Darllenwch y stori'n llawn yma.