Ehangu cynllun E-sgol 'sy'n rhoi cyfle i bob disgybl'
Ehangu cynllun E-sgol 'sy'n rhoi cyfle i bob disgybl'
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cynllun E-sgol yn cael ei ehangu.
Mae'n gynllun sy'n galluogi myfyrwyr TGAU a Safon Uwch i ymuno â dosbarthiadau mewn ysgolion eraill drwy gyswllt fideo i bob rhan o Gymru o fis Medi 2023.
Cafodd E-sgol ei lansio yng Ngheredigion yn 2018, gyda'r nod o ehangu cyfleoedd i ddysgwyr ôl-14 ac ôl-16 astudio cyrsiau na fyddai ar gael iddynt fel arall a chynyddu nifer y dysgwyr sy'n astudio pynciau sydd fel arfer yn denu niferoedd is o fyfyrwyr.
I gefnogi'r ehangu, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer e-sgol i £600,000 yn y flwyddyn ariannol hon, o £350,000 y llynedd.
'Pob un disgybl yn cael yr un cyfle'
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Llifon John Ellis Pennaeth Strategol E-sgol: “Y bwriad ydy bod pob un disgybl yn cael yr un cyfle a bod neb yn cael ei gadael allan yn ddibynnol ar lle mae nhw’n byw.
“Yn 2018, 43 o ddisgyblion oedd yn cymryd rhan ond dros y blynyddoedd mae E-sgol yn barod wedi ei ehangu ac yn ystod y flwyddyn academaidd yma roedd yna 358 o ddisgyblion mewn 38 o ysgolion. Felly mae ysgolion a disgyblion yn cael byd dyn y cynllun sy’n datblygu.”
Cafodd E-sgol ei greu i gynyddu nifer yr opsiynau TGAU a Safon Uwch/Uwch Gyfrannol sydd ar gael i ddisgyblion, yn enwedig i'r rhai mewn ysgolion gwledig llai, gan ehangu mynediad at ystod fwy o bynciau.
Mae E-sgol hefyd yn anelu at ehangu'r pynciau sydd ar gael i'w hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Eleni, mae 28 o bynciau wedi cael eu haddysgu, i dros 350 o ddisgyblion, drwy e-sgol. Mae gwersi ar gael mewn ystod eang o bynciau, gan gynnwys Troseddeg, Gwleidyddiaeth a Seicoleg.
Ym mis Ionawr 2021, cyflwynodd e-sgol Gyrsiau Carlam, sesiynau adolygu ar ôl ysgol i gefnogi disgyblion ledled Cymru yn dilyn y tarfu a achoswyd gan Covid-19. Defnyddiwyd E-sgol hefyd i greu partneriaeth rhwng ysgol uwchradd ac uned cyfeirio disgyblion, i gynnig ystod ehangach o bynciau i ddysgwyr yn yr uned.
Ychwanegodd Mr Ellis: “‘Da ni’n ddiolchgar iawn am y cyllid gan Llywodraeth Cymru, fyddwn i’n defnyddio’r arian yna i ehangu e-sgol.
“Mae E-sgol wedi’i sefydlu yn eithaf cadarn yn y Canolbarth a Gogledd ac mi fydd y cyllid yn ehangu yn y de ac yn rhoi cyfle i ni fantesisio ar ddatblygu prosiectiau ychwanegol.”
'Astudio pynciau cyffrous'
Bydd y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, Jeremy Miles, yn annerch y Gynhadledd E-sgol flynyddol yn ddiweddarach heddiw.
Dywedodd Jeremy Miles: "Mae E-sgol yn enghraifft wych o sut y gallwn fanteisio ar dechnoleg ddigidol i wella addysg. Drwy ehangu'r opsiynau astudio ar gyfer dysgwyr TGAU a Safon Uwch, mae E-sgol yn rhoi cyfle i ddysgwyr astudio pynciau cyffrous na fyddent wedi bod ar gael mewn llawer o ysgolion yn y gorffennol.
"Ar ôl dechrau fel prosiect peilot mewn tair ysgol yn unig yn 2018, mae'r rhaglen yn enghraifft wych o sut y gellir datblygu prosiect peilot llwyddiannus er budd pob dysgwr yng Nghymru. Mae e-sgol o fudd i ddisgyblion mewn ardaloedd gwledig yn arbennig a dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
"Rwy'n falch iawn o gynyddu'r cyllid ar gyfer e-sgol i £600,0000 er mwyn ehangu'r cynllun a darparu mwy o ddewis o bynciau i ddysgwyr ledled Cymru o fis Medi nesaf."