British Airways yn canslo dros 10,000 o hediadau

Mae British Airways wedi cyhoeddi y bydd y cwmni yn canslo 10,300 o hediadau tan ddiwedd mis Hydref.
Mae'r cwmni yn un o'r rhai gafodd eu heffeithio fwyaf o ganlyniad i brinder gweithwyr yn sgil y pandemig.
Dywedodd BA nad ydy'r hediadau sydd wedi eu canslo ymysg y rhai mwyaf poblogaidd gyda chwsmeriaid.
Daw'r cyhoeddiad diweddaraf gan y cwmni ychydig oriau cyn i undebau sy'n cynrychioli 700 o'u gweithwyr ym maes awyr Heathrow fynd ar streic yn sgil anghydfod am gyflogau.
Y gred yw y bydd y streiciau hyn yn digwydd yr un pryd â dechrau gwyliau'r haf.
Darllenwch ragor yma.