Miloedd o wenyn yn gwneud cartref newydd mewn blwch post pentref

Fe wnaeth trigolion pentref ar Ynys Môn gael trafferth i anfon llythyrau dros y penwythnos wedi i gwch o wenyn wneud cartref newydd ym mlwch post y pentref.
Bu'n rhaid i bentrefwyr Dothan alw am gymorth gan gymdeithas gadw gwenyn lleol ar ôl darganfod miloedd o wenyn yn cymryd lloches yn y blwch.
Cafodd y gwenyn eu symud o'r blwch post a'u hail-gartrefu gan Gymdeithas Cadw Gwenyn Ynys Môn ddydd Sul.
Dywedodd ysgrifennydd y gymdeithas, John Bowles, fod blychau post yn cynnig yr amodau perffaith ar gyfer cartref i wenyn.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Gwenda Marian