Newyddion S4C

Cynllun noddwyr pobl o Wcráin yn parhau i gael ei atal am y tro

06/07/2022
Wcráin gwirfoddolwyr Wcráin

Bydd ceisiadau newydd drwy'r cynllun uwch-noddwyr, sy'n rhan o'r cynllun Cartrefi i Wcráin, yn parhau i gael eu hatal am y tro medd Llywodraeth Cymru.

Fe gafodd ceisiadau newydd drwy'r llwybr uwch-noddwr eu hatal ar 10 Mehefin, ac hyd yn hyn, mae dros 4,000 o fisâu i Gymru wedi eu cyhoeddi i bobl o Wcráin, yn ôl y llywodraeth.

Bwriad y cynllun yw galluogi teuluoedd neu unigolion yng Nghymru i gynnig noddfa i ffoaduriaid sydd wedi ffoi o'r ymladd yn Wcráin.

Daeth y cynllun i rym ym mis Mawrth ac fe gafodd ceisiadau newydd gan noddwyr eu hatal yn ystod mis Mehefin er mwyn "sicrhau bod pobl sy’n cyrraedd, a’r rhai sydd eisoes yma yng Nghymru, yn parhau i gael lefel ragorol o ofal a chefnogaeth."

Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, bod "dyletswydd arnom i sicrhau bod pob person yn cael llety a chymorth o ansawdd da wrth iddynt gyrraedd Cymru fel y gallant integreiddio â chymunedau lleol yn ystod eu hamser yma". 

"Unwaith y caiff fisas eu cadarnhau, gall unrhyw un sydd wedi derbyn un ddod i Gymru," meddai.

Canolfannau croeso

Mae chwe canolfan croeso wedi eu hagor ar draws y wlad hyd yma, gyda rhagor yn agor ym mis Gorffennaf.

Pwysleisiodd Jane Hutt na fydd unrhyw un yn gadael unrhyw un o'r canolfannau croeso heb wirio diogelwch y lletyau dilynol.

"Rydym wedi rhannu manylion aelwydydd yng Nghymru sydd wedi mynegi diddordeb mewn croesawu pobl o Wcráin ac mae awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio eu ffordd drwy'r cynigion hyn cyn gynted â phosibl i nodi lleoedd llety addas," meddai.

Ychwanegodd y Gweinidog bod Llywodraeth Cymru y bydd y Gwasnaeth Noddfa Cymru presennol yn cael ei ehangu er mwyn sicrhau bod gan letywyr yr adnoddau priodol i gefnogi pobl o Wcráin ar hyd a lled Cymru.

Fe wnaeth gadarnhau y bydd unrhyw letywr sy'n cytuno i fod yn rhan o'r cynllun yn swyddogol drwy'r awdurdod lleol yn derbyn taliad diolch o £350 y mis gan Lywodraeth Cymru, wedi iddyn nhw gwblhau'r prosesau anghenrheidiol. 

Mynediad i'r Saesneg

Roedd anghysondeb Llywodraeth y DU hefyd yn peri gofid i Lywodraeth Cymru gan gynnwys y ffaith nad oes "cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwasanaethau iechyd nac ar gyfer darpariaeth Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill".

Mae sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach wedi sicrhau bod Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn gallu cael mynediad at y Saesneg, gan gynnwys digwyddiad 'Haf o Hwyl' i unrhyw un rhwng 0 a 25 oed. 

"Mae'r gweithgareddau hyn, sy'n rhad ac am ddim i bawb sy'n cymryd rhan, yn agored i blant a theuluoedd o Wcráin a'r holl blant a theuluoedd sy'n ceisio noddfa."

Llun: DEC Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.