Tudur Owen yn derbyn Gradd er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor
Mae'r cyflwynydd a'r digrifwr Tudur Owen wedi derbyn Gradd er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.
Derbyniodd Mr Owen y radd Doethur mewn Llenyddiaeth am wasanaethau i adloniant poblogaidd a chyfraniad i ddysgu drwy bob cyfrwng.
Ymunodd gyda myfyrwyr eraill mewn seremoni yn y brifysgol ddydd Llun.
Mae'r cyflwynydd wedi sefydlu ei hun fel enw cyfarwydd yn y diwydiant darlledu ar y sgrin fach ac ar donfeddi'r radio dros y blynyddoedd.
Wrth dderbyn yr anrhydedd, dywedodd Tudur Owen: "Mae disgrifio hyn fel braint ac anrhydedd yn dan ddatganiad llwyr.
"Dwi wedi bod mor lwcus dwi’n teimlo nad oes gen i mo’r hawl i roi cyngor yn aml iawn, ond yr unig beth faswn yn cynghori pobol ydy i beidio â bod ofn gwneud camgymeriadau, ond trïwch beidio â gwneud yr un camgymeriad ddwywaith."
Llun: Prifysgol Bangor