Newyddion S4C

Dyn o'r gogledd yn rhedeg i gefnogi ei gydweithiwr sy'n brwydro canser

Dyn o'r gogledd yn rhedeg i gefnogi ei gydweithiwr sy'n brwydro canser

Doedd Tecwyn Jones o Ynys Môn erioed wedi rhedeg yn ei fywyd.

Ond yn 57 oed, fe benderfynodd y technegydd peirianneg i roi cynnig ar y gamp.

“O’n i’n teimlo fy hun ddim yn ffit iawn, dyna pam nesi ddechrau,” meddai wrth Newyddion S4C.

“O’n i ‘di bod yn tŷ fy mrawd ac aethon ni fyny allt serth, ac o’n i allan o wynt – felly neshi feddwl, mae'n rhaid i mi neud wbath cyn bod hi’n rhy hwyr.”

Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae Tecwyn yn rhedeg rhai o’r rasys mwyaf heriol yng Nghymru.

Bythefnos yn ôl fe gyflawnodd ras 38 milltir Ultra Pên Llŷn, a hynny i gefnogi ei gydweithiwr yng Ngholeg Menai sydd wedi bod yn brwydro yn erbyn canser.

Image
Tecwyn Pen Llyn Ultra
Fe gyflawnodd Tecwyn ei nod o orffen ras Ultra Pen Llŷn mewn llai na naw awr

Derbyniodd Daron Evans, 29 oed, ddiagnosis o ganser y coluddyn ddwy flynedd nôl.

Ers hynny, mae wedi bod yn derbyn triniaeth ar Ward Alaw ac Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd.

Bwriad Tecwyn yw codi arian ar gyfer yr ysbyty trwy elusen Awyr Las Gogledd Cymru.

Hyd yma mae wedi llwyddo i godi dros £1,800 drwy ei ymgyrch JustGiving.

“Mae’n meddwl lot achos mae pawb ‘di mynd  trwy canser rhyw dro – teulu, ffrindiau, neu nhw eu hunain. 

“A Daron druan, ac mor ifanc hefyd... O’n i’n meddwl bod o’n achos da i neud wbath.”

Image
Daron yn yr ysbyty
Mae Daron wedi bod yn derbyn triniaeth am ganser y coluddyn yn Ysbyty Gwynedd

Er bod Tecwyn yn “falch” o’i lwyddiant yn Ultra Pen Llŷn, dywedodd nad oedd yr her yn hawdd.

“Dydyn nhw’m yn galw’r ras yn ‘beautifully brutal’ am ddim byd,” meddai.

“Oedd ‘na ddigon o gleimio i fyny a trwy mwd a llwybrau, ond ma hynna’n gwneud o’n fwy o sialens.”

Ond nid yw'r profiad wedi ei rwystro rhag gwneud mwy o rasys.

Penwythnos nesaf, bydd yn rhedeg hanner marathon Her Llwybr Betws-y-Coed.

Mae'r ras yn adnabyddus am ei amodau anodd – ond nid yw Tecwyn yn fodlon cymryd unrhyw glod.

“Dim am fi ydi o, am yr Alaw a’r Ysbyty a Daron,” meddai.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.