Cau ffordd ger Chwilog yng Ngwynedd wedi tân sylweddol
Cau ffordd ger Chwilog yng Ngwynedd wedi tân sylweddol
Mae ffordd yng Ngwynedd ar gau nos Sadwrn gan fod y gwasanaethau brys yn ymateb i dân gerllaw.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod ffordd yr A497 ger safle Evans Caravans and Camping yn Chwilog ar gau "o achos tân mewn safle gwersylla."
Mae lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn awgrymu bod y tân yn un sylweddol, a'i fod ar safle Garej Pandy ble mae busnes carafanau.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ag Achub Gogledd Cymru bod 10 injan dân wedi eu galw i leoliad y tân, ar ôl derbyn galwad am y digwyddiad am 17.35.
Maen nhw wedi gofyn i drigolion lleol gau eu ffenestri a'u drysau am y tro.
Nid oes adrodiadau fod unrhyw un wedi eu hanafu.
Mae'r heddlu yn gofyn i deithwyr i osgoi'r ardal am y tro tra bod y ffordd ar gau.
Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi cyhoeddi bod y ffordd ar gau am y tro.
Lluniau: Lois Povey