Newyddion S4C

Newidiadau platfform X 'yn bryder i'r gymuned ganser' medd dynes o Fôn

24/11/2024

Newidiadau platfform X 'yn bryder i'r gymuned ganser' medd dynes o Fôn

Mae dynes o Fôn sy'n byw gyda chanser y fron terfynol yn dweud bod newidiadau i blatfform X yn peri pryder i'r gymuned ganser.

Fe dderbyniodd Elen Hughes o Lanfairpwll ddiagnosis o ganser y fron yn 37 oed, a hithau yn fam i dri o blant. 

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, yn 2015, a hithau yn 44 oed, fe dderbyniodd Elen ddiagnosis o ganser y fron gradd pedwar.

"Dwi'n meddwl pan ti'n cael diagnosis o ganser, dim ofn drosta chdi dy hun wyt ti, ofn er mwyn pobl ti'n meddwl ti'n mynd i adael ar ôl," meddai wrth Newyddion S4C.

Roedd X (Twitter gynt) yn gymorth mawr iddi wrth iddi ddod i delerau â'i diagnosis, gydag Elen yn defnyddio'r platfform yn aml i fynegi ei theimladau ac uniaethu gydag eraill oedd yn wynebu heriau tebyg. 

Ond mae newidiadau diweddar i'r platfform wedi effeithio yn fawr arni, a bellach nid yw yn ei ddefnyddio mor gyson. 

"Be' o'n i'n ffeindio oedd bod o wedi newid rwan ag o'n i jest yn cael fy bombardio efo Trump, Kamala, Elon Musk ond mae o wedi newid," meddai wrth Newyddion S4C

"Mi oedd y gymuned ganser arna fo, oeddan nhw yn dod i fyny yn dy feed di yn aml ag oedd 'na bob tro rywun i ddeud 'Fyddi di'n iawn', 'Da iawn chdi', 'Caria 'mlaen' a ma' 'di cal ei golli, a ma' hynny yn bechod.

"Be ma' Twitter wedi neud ydy fy ngalluogi i i weld bo' fi'n normal... ma' colli'r gymuned ganser hefyd yn fy mhoeni i."

'Nid dim ond ffugenw'

Mae papur newydd The Guardian yn un o'r cyfrifon amlwg diweddaraf i adael y platfform.

Mewn datganiad, fe ddywedodd y papur newydd fod Etholiad Arlywyddol UDA wedi "tanlinellu" eu pryderon fel cwmni fod perchennog X, Elon Musk, wedi gallu defnyddio'r plaatfform i "siapio dadl wleidyddol".

Mae'r newyddiadurwr Jon Sopel hefyd wedi gadael y platfform, gan ddweud fod y "gymdogaeth wedi dirywio yn sylweddol".

Mae cyfryngau cymdeithasol eraill fel Bluseky a Threads wedi gweld cynnydd mewn defnyddwyr wrth i bobl adael X.

Er nad yw Elen yn defnyddio X mor aml bellach, mae hi'n gobeithio cadw mewn cysylltiad gyda'r bobl y mae hi wedi cyfarfod.

"Dwi yn piciad nol a mlaen arna fo a mi na'i gadw mewn cysylltiad," meddai.

"Ma' gen i yn sicr grwp o tua 10 o fewn y gymuned sydd rwan yn gw'bod pwy ydw i...mai dim y ffugenw 'ma ydw i."

'Colled'

Mae'r platfform yn cynnig cysur mewn ffordd wahanol i rai eraill fel Facebook ac Instagram yn ôl Elen.

"Ma' Twitter 'di bod yn le lle 'dan ni'n cael hwyl, lle allwn ni grio efo'n gilydd, chwerthin efo'n gilydd, allwn ni fynd trwy bob scenario alli di feddwl am, a ma' 'na rywun arall 'di bod trwydda fo a nawn nhw ddilysu'r ffaith bo' chdi'n teimlo hyn 'lly," meddai.

"Ma' Twitter 'di newid lot, ers idda fo fynd yn X dwi'n meddwl fwy na dim byd arall. 

"Dwi ddim yn gwybod os ydy pobl eraill yn teimlo hynny."

Ychwanegodd Elen: "I'r gymuned ganser, yn bendant ma'n golled achos ma' 'na gymaint o junk yn fy feed i nes dwi ddim yn gallu cyrraedd at y bobl dwi'n ffrindia efo dim mwy, 'lly.

"Mae o'n bechod ofnadwy a dwi'n meddwl bod 'na niche idda fo mewn ffordd achos ma' gen ti Facebook i bobl fy oed i, Instagram a Snapchat a ma' hyn i gyd y byd ffug - ma' pobl yn byw y bywyd ma' nhw isio i pawb arall weld.

"Ar Twitter, ti'n cael byw dy fywyd canser di."

Er bod Elen wedi cael diagnosis o ganser terfynol, mae'n parhau yn obeithiol am y dyfodol.

"Ma'r dyfodol yn edrych yn llawer gwell nag oedd o naw mlynedd yn ôl achos naw mlynedd yn ôl, ddudodd yr oncologist wrtha i 'Dwy, dair blynadd' a ti'n meddwl 'Be na'i?'," meddai.

"Ond fy bucket list i ydi jyst bod lle dwi rwan, dwi'n hapus."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.