Canfod corff wrth chwilio am ddyn oedd ar goll ger Afon Conwy
Mae corff wedi’i ddarganfod yn ardal Trefiw, Sir Conwy, yn ystod yr ymdrech i ddod o hyd i Brian Perry, 75 oed, aeth ar goll ddydd Sadwrn.
Ar hyn o bryd nid yw wedi cael ei adnabod yn ffurfiol ond mae teulu Mr Perry wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd y Prif Arolygydd Simon Kneale o Heddlu Gogledd Cymru: “Hoffwn ddiolch i’r holl asiantaethau fu’n ymwneud â’r chwiliadau mewn amodau anodd iawn ac i’r gymuned leol a gefnogodd y timau yn yr ardal.
“Mae ein meddyliau gyda’r teulu ar hyn o bryd."
Roedd yr Heddlu, Gwylwyr y Glannau, Tîm Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru, y tîm chwilio tanddwr rhanbarthol a’r gwasanaeth tân ac achub wedi bod yn cynnal archwiliad manwl o’r ardal ers y digwyddiad.
Aeth Mr Perry ar goll brynhawn dydd Sadwrn tra'r oedd yn cerdded yn yr ardal gyda'i wraig a'i gi.